Mae dyn 78 oed o Hen Golwyn wedi cael ei gyhuddo o saith o droseddau rhyw yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol (NCA).

Honnir bod y cyn uwch-arolygydd  gyda Heddlu’r Gogledd, Gordon Anglesea, wedi cam-drin tri bachgen rhwng 1979 a 1987 pan oedden nhw rhwng 11 a 16 oed.

Cafodd ei arestio gan swyddogion, sy’n rhan o Ymchwiliad Pallial, ym mis Rhagfyr 2013.

Mae Pallial yn ymchwilio i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Mae Gordon Anglesea wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 6 Awst.

Mae Ymchwiliad Pallial yn parhau.