George Osborne
Roedd y Gyllideb gafodd ei chyhoeddi gan George Osborne ddoe wedi cymryd “llawer mwy” oddi wrth y tlawd na’r cyfoethog, yn ôl un sefydliad ymchwil adnabyddus.

Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) “nad oes amheuaeth” y byddai pobl ar gyflogau isel ar eu colled o ganlyniad i Gyllideb y Ceidwadwyr oherwydd toriadau i gredydau treth a budd-daliadau.

Daw hynny er i’r Canghellor gyhoeddi y byddai’r isafswm cyflog yn codi i £9 yr awr erbyn 2020.

Mae’r IFS hefyd wedi codi amheuon dros honiad George Osborne ei fod yn ceisio creu cymdeithas o “dreth isel”, gan gyfeirio at ddogfennau’r Trysorlys oedd yn awgrymu y byddai trethi’n codi o £6.5biliwn y flwyddyn erbyn 2020.

Toriadau lles

Yn ôl cyfarwyddwr yr IFS, Paul Johnson, roedd hi’n “fathemategol amhosib” i’r cynnydd yn yr isafswm cyflog wneud i fyny am y toriadau i fudd-daliadau lles a chredydau treth pobl.

Dywedodd Paul Johnson y byddai pobl £4bn yn gyfoethocach ar y cyfan o’r codiad cyflog, ond bod hynny’n llai o lawer na’r £12bn fydd yn cael ei dorri o wariant lles dros y pum mlynedd nesaf.

Ychwanegodd bod y cyfnod ers cwymp economaidd 2008 wedi gweld “cartrefi tlotach yn gwneud yn waeth na’r rheiny gydag incwm yn y lefelau canol neu uwch”.

“O gofio’r gwahanol fudd-daliadau, dyw hi ddim yn syndod bod y newidiadau [yn y Gyllideb ddiweddaraf] ar y cyfan yn mynd am yn ôl, gan gymryd llawer mwy oddi wrth y cartrefi tlotach na’r rhai cyfoethocach,” meddai Paul Johnson.

Newidiadau eraill

Ymysg y cyhoeddiadau eraill wnaeth y Canghellor yn ei Gyllideb, yr un Ceidwadol cyntaf ers ugain mlynedd, oedd y byddai’r wlad yn mantoli’r llyfrau erbyn 2019/20, blwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl.

Bydd budd-daliadau i bobl sydd o fewn oed gweithio yn cael eu rhewi nes 2020, cam sydd yn mynd i gostio 13miliwn o deuluoedd £260 yr un, ar gyfartaledd, yn ôl yr IFS.

Bydd cyflogau yn y sector cyhoeddus hefyd yn cael eu cyfyngu i 1%, ond fe fydd trethi corfforaethol yn gostwng i 18% ac ni fydd stadau gwerth llai na £1m yn gorfod talu treth etifeddiaeth.

Mae’r llywodraeth hefyd yn bwriadu gwarchod gwariant ar amddiffyn, gan olygu bod adrannau fel y Swyddfa Gartref, Swyddfa Dramor, amgylchedd a thrafnidiaeth yn wynebu toriadau o draean i’w cyllideb rhwng 2010 a 2020.

“Fe fydd y Gyllideb yma’n arwain at wlad â llai o les, fel cafodd ei addo gan y Canghellor. Ond mae’r ffigyrau’n glir – roedd hwn yn Gyllideb i godi trethi, sydd ddim cweit yn gyson â’r brolio ei fod wedi’i anelu at wlad treth isel,” meddai cyfarwyddwr yr IFS.

‘Tlawd yn cyfrannu mwy’

Yn ôl ffigyrau’r IFS mae’r newidiadau diweddaraf yn golygu bod y 30% tlotaf o fewn cymdeithas wedi gwneud cyfraniad mwy na’r 10% cyfoethocaf, fel cyfran o’u hincwm, i’r broses o leihau dyled y wlad ers 2010.

Fe fyddai’r 10% tlotaf yn colli £800 y flwyddyn o’r newidiadau sydd wedi’u hamlinellu ar gyfer y blynyddoedd yn arwain at 2019, bron i 7% o’u hincwm.

Ond fe fydd 10% sydd ail dlotaf yn colli allan ar £1,300 y flwyddyn, sydd dros 7% o’u hincwm.

O’i gymharu â hynny byddai’r 10% cyfoethocaf yn colli llai na £400, tra bod y 10% ail cyfoethocaf ar eu hennill o bron i £200.