Lluniau CCTV o'r dyn yn dwyn beic ac yn gadael y babi yn y gadair wthio ar ei ben ei hun
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn a oedd wedi gadael babi ar ei ben ei hun mewn gorsaf drenau yng Nghaerdydd tra ei fod o’n gollwng dŵr ar y platfform, ac yna’n dwyn beic.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain (HTP) yn apelio am wybodaeth ynglŷn â’r lladrad a ddigwyddodd yng ngorsaf drenau Coryton yng Nghaerdydd.

Dywed yr heddlu bod y beic mynydd Saracen a gafodd ei ddwyn yn ddu a gwyn ac yn werth tua £300.

Dywedodd y Pc Chris Jones, sy’n ymchwilio i’r digwyddiad, bod agwedd digywilydd y dyn wedi synnu swyddogion yr heddlu.

“Roedd bachgen 15 oed wedi cloi ei feic ar bostyn lamp yn yr orsaf. Ond pan ddaeth yn ôl yn ddiweddarach, fe ddarganfu fod ei feic wedi cael ei ddwyn.

“Mae lluniau camerâu CCTV yn dangos y dyn yn dod i mewn i’r orsaf gyda babi mewn cadair wthio. Yn fuan wedyn, mae’n gollwng dŵr ar seddi yn y safle aros cyn torri’r beic yn rhydd o’r clo.

“Tra ei fod yn dwyn y beic, roedd y babi wedi ei adael ar ei ben ei hun yn y gadair wthio, ychydig o droedfeddi i ffwrdd o’r cledrau.

“Yna, mae’r dyn yn gorffen yfed diod a oedd ganddo cyn taflu’r can ar y llawr a gadael yr orsaf gyda’r beic a’r gadair wthio.”

Monitro hysbysebion ar y we

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw wedi ymchwilio i’r digwyddiad ar 30 Mai ac er eu bod nhw wedi dosbarthu lluniau o’r dyn ymhlith yr heddlu a staff yr orsaf yn yr ardal, nid ydyn nhw wedi llwyddo i ddod o hyd iddo.

Maen nhw bellach wedi rhyddhau’r lluniau ohono yn y gobaith y byddan nhw’n gallu ei adnabod.

Dywedodd y Pc Chris Jones eu bod nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda siopau beiciau ac ail law ac yn monitro safleoedd hysbysebu ar y we er mwyn ei gwneud yn anoddach i ladron werthu nwyddau sydd wedi’u dwyn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 40 50 40 neu tecst i 61016 gan nodi’r cyfeirnod WSUB/B5 of 29/06/2015.