Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd neithiwr.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Rover Way, Caerdydd wrth ymyl y gyffordd ger Heol Tide Fields am 9.55yh nos Fercher.
Cafodd y dyn oedd yn gyrru’r beic modur Yamaha gwyn a choch ei anafu’n ddifrifol yn y ddamwain a bu farw’n ddiweddarach.
Nid oedd unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â’r ddamwain.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr oedd grŵp o yrwyr beic modur wedi bod yn gyrru cyn y gwrthdrawiad o gysylltu â nhw ar 1010 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.