Mae llai o drenau’n teithio  rhwng de Cymru a Llundain heddiw wrth i wasanaethau gael eu heffeithio’n “sylweddol” oherwydd streic gan weithwyr rheilffordd.

Mae miloedd o aelodau o undeb yr RMT wedi dechrau streic 48 awr ers 6.30yh neithiwr gan effeithio gwasanaethau   cwmni trenau First Great Western.

Mae’r streic, dros swyddi a chynnal a chadw trenau Hitachi newydd, yn effeithio gwasanaethau rhwng Llundain a de Cymru.

Mae  amserlen ddiwygiedig yn cael ei gweithredu gan olygu y bydd trenau rhwng de Cymru a Llundain yn rhedeg bob awr yn hytrach na bob hanner awr.

Ond rhybuddiodd First Great Western na fydd cymaint o le ag arfer ar y trenau ac y bydd y gwasanaethau sydd yn rhedeg yn brysur iawn.

Gallai gwaharddiad goramser ddydd Sadwrn hefyd arwain at newidiadau hwyr neu ganslo gwasanaethau, rhybuddiodd y cwmni.