Ar fore cyntaf Cyfres y Lludw, mae cwmni brechdanau poblogaidd yng Nghaerdydd wedi dweud wrth Golwg360 eu bod nhw’n elwa’n sylweddol o ddenu’r ornest i’r brifddinas.
Mae ‘Bant a la Cart’ yn hen gyfarwydd â darparu lluniaeth i ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol, ond maen nhw’n darparu ar gyfer ymwelwyr o fath gwahanol yr wythnos hon, wrth i bobol o bob cwr o Gymru, Lloegr ac Awstralia heidio i Gaerdydd.
Mae nifer y cwsmeriaid sydd wedi cerdded i mewn i’r siop ar gynnydd, ac mae nifer yr archebion maen nhw wedi’u derbyn ar gyfer gweddill yr wythnos yn sylweddol uwch nag arfer.
Dywedodd y perchennog, Elin Wyn Williams wrth Golwg360: “Mae cwsmeriaid wedi bod yn cerdded i mewn yn gofyn i ni roi hamper at ei gilydd i fynd gyda nhw i’r gêm.”
Oni bai am y glaw cyn i’r gêm ddechrau fore Mercher, mae’n debygol iawn y byddai rhagor fyth o bobol wedi mentro i’r siop ar Heol y Gadeirlan, dafliad carreg o’r Swalec SSE.
Ychwanegodd Elin Wyn Williams: “Mae gyda ni archebion gan ymwelwyr â’r criced hyd at ddydd Sadwrn, ac ry’n ni eisoes wedi paratoi pum gwaith yn fwy o frechdanau nag y bydden ni ar fore arferol.”
Roedd y bwydydd twym gafodd eu paratoi fore Mercher wedi gwerthu allan erbyn diwedd y bore, meddai.