George Osborne yn Downing Street bore ma
Mae’r Canghellor George Osborne wedi dechrau cyflwyno ei Gyllideb gyntaf ers yr etholiad cyffredinol.

Y tro diwethaf i’r Ceidwadwyr gyflwyno Cyllideb oedd yn 1996.

Cyllideb i bobl sy’n gweithio yw hon, meddai George Osborne,  a fydd yn “rhoi Prydain ar sylfaen gadarn.”

Mae wedi rhoi addewid i greu Prydain sy’n cynnig “cyflogau uwch, trethi is, a gwariant is ar y wladwriaeth les.”

Ond wrth gyfeirio at Wlad Groeg, dywedodd bod yr argyfwng yno’n profi bod angen “setliad newydd beiddgar” gan ddweud bod Prydain yn wlad sydd yn dal i “fenthyg a gwario gormod.”

Mae wedi bod yn amlinellu sut y bydd yn mynd ati i leihau’r diffyg yn yr economi gan ddweud y bydd yn digwydd ar yr un cyflymdra a’r Llywodraeth ddiwethaf.

Dywedodd Osborne bod y diffyg yn 10.2% yn 2010. Mae’n 3.7% eleni, a bydd yn gostwng i 2.2% yn 2016-17, 1.2% yn 2018-19, a 0.3% yn 2018-19.

Fydd na ddim gweddill (surplus) tan 2019/2020 ond bydd y diffyg yn is a’r gweddill yn fwy na’r disgwyl, meddai.

Fe fydd codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyfyngu i 1% y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn derbyn £750 miliwn ychwanegol er mwyn ymchwilio i dwyll ac osgoi talu trethi, gyda’r bwriad o godi £7.2 biliwn mewn treth ychwanegol.

Fe fydd yn dileu statws “non-dom” i bobl sydd ddim  yn talu treth os nad ydyn nhw’n byw ym Mhrydain o fis Ebrill 2017, gan godi £1.5 biliwn.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £8 biliwn ychwanegol erbyn 2020, ar ben y £2 biliwn sydd eisoes wedi’i ymrwymo.

Bydd treth ar danwydd yn aros yr un peth eleni.

Bydd grantiau i fyfyrwyr yn cael eu sgrapio gyda benthyciadau i fyfyrwyr newydd yn eu lle erbyn y flwyddyn academaidd 2016/17 i’w dalu yn ôl unwaith fyddan nhw’n ennill mwy na £21,000.

Awdurdodau lleol  a meiri etholedig i gael y grym i benderfynu ynglŷn ag ymestyn oriau agor ar y Sul yn eu hardaloedd.

Newidiadau i dreth etifedd yn golygu y gall pobl adael hyd at £1 miliwn i’w plant neu wyrion yn rhydd o dreth etifedd.

Ni fydd budd-daliadau anabl yn cael eu trethu nac yn ddibynnol ar brawf modd a bydd yr arian ar gyfer dioddefwyr trais domestig a llochesi i fenywod yn cynyddu.

Bydd yn dileu budd-dal tai i bobl ifanc 18-21 gan eu gorfodi i ennill cyflog neu gael addysg bellach. Bydd pobl fregus yn cael eu hesgusodi.

Bydd budd-daliadau i bobl sy’n gweithio yn cael eu rhewi am bedair blynedd – gan gynnwys credydau treth a Lwfans Tai Lleol, ond ni fydd yn cynnwys tal mamolaeth a budd-daliadau anabledd.

Bydd y cap ar fudd-daliadau yn cael ei ostwng o £26,000 i gartrefi yn Llundain i £23,000 ac £20,000 yng ngweddill y wlad.

Cymorth i blant trwy gredydau treth a chredydau cynhwysol yn cael eu cyfyngu i ddau blentyn, a fydd yn cael effaith ar blant sydd wedi’u geni ar ôl mis Ebrill 2017.

Y lwfans treth incwm yn codi o £10,600 i £11,000 y flwyddyn nesaf.

Bydd y trothwy i bobl sy’n talu treth incwm o 40% yn codi o £42,385 i £43,000 o’r flwyddyn nesaf.

Bydd yn cyflwyno Cyflog Byw i bobl dros 25 oed sy’n gweithio gan ddechrau ar £7.20 yr awr ym mis Ebrill 2016 gan gynyddu i £9 erbyn 2020.

Bydd y Llywodraeth yn cadw at gynlluniau isadeiledd yng Nghymru fel ymestyn traffordd yr M4 a lein rheilffordd y de.

Protestwyr

Mae nifer o brotestwyr, sy’n gwrthwynebu’r toriadau i wariant y wladwriaeth les, wedi bod yn protestio yn Whitehall.

Ymhlith y rhai sydd wedi atal y traffig yno mae pobl anabl sy’n galw am roi diwedd i doriadau i fudd-daliadau.

Roedd dwsinau o blismyn y tu allan i giatau Downing Street wrth i’r protestwyr daflu peli plastig atyn nhw.