Prif weithredwr Cyngor Sir Gar, Mark James
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu beth maen nhw’n ei weld fel sylwadau sarhaus gan Gyngor Sir Caerfyrddin wrth hysbysebu am swyddi newydd gyda’r Cyngor Sir.

Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn hysbysebu dwy swydd uwch-reolwr – Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaeth Corfforaethol.

Mae’r ddwy swydd yn cynnig cyflog o rhwng £112,267 a £120,790 y flwyddyn ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi eu cythruddo gan ddweud bod y fanyleb swydd yn gofyn safonau sylweddol is o allu yn Gymraeg  na Saesneg.

Sgiliau iaith

Mae’r swydd ddisgrifiad yn esbonio mai “dymunol” yw sgiliau ysgrifenedig Cymraeg ar gyfer y ddwy swydd, nid “hanfodol”.

Mae’r swydd ddisgrifiad hefyd yn dweud ei bod hi’n “hanfodol” i’r ymgeisydd llwyddiannus gael sgiliau llafar Cymraeg hyd  at lefel 2  – o chwe lefel sydd wedi eu nodi gan y cyngor.

Mae lefel 1 yn golygu “dim sgiliau llafar” ac mae lefel 6 yn golygu bod yr ymgeisydd yn hollol rugl.

Yn ôl canllawiau’r cyngor, mae gallu llafar o’r Gymraeg hyd at lefel 2 yn golygu fod yr ymgeisydd yn gallu cyfarfod â phobl a’u cyfarch yn yr iaith; yn gallu cyflwyno cyfarfodydd yn yr iaith; yn gallu ynganu enwau lleoedd lleol yn Gymraeg; yn gallu ynganu geirfa allweddol yr Awdurdod Lleol yn yr iaith; yn gallu deall sgwrs syml yn yr iaith a chyfrannu ati; ac yn gallu ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog a throsglwyddo galwad i siaradwr Cymraeg.

‘Gwawdio Sir Gaerfyrddin’

Dywedodd Bethan Williams, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed fod yr hysbyseb yn ei gwneud hi’n “hollol amlwg” mai pobl o du allan i’r sir mae’r prif weithredwr Mark James yn dymuno penodi i “ysbrydoli pobl leol”, a hynny ar ôl dysgu rhywfaint o Gymraeg.

Meddai Bethan Williams: “Ydy e wedi meddwl mai’r sawl sydd fwyaf  tebygol o ysbrydoli pobl Sir Gâr yw’r bobl hynny sydd wedi byw a gweithio yma? Mae ei sylwadau yn gwawdio Sir Gaerfyrddin, a hyn eto yn parhau â’r arfer o beidio disgwyl i uwch swyddogion allu siarad yn Gymraeg.

“Mae hyn yn sicr yn codi amheuon am ymrwymiad y prif weithredwr i strategaeth iaith y sir.”

‘Asesiad safonol a diduedd’

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, aelod o’r bwrdd gweithredol dros yr Iaith Gymraeg ac Adnoddau Dynol:

“Mae’r asesiad iaith ar gyfer y swydd hon wedi ei gwblhau yn unol â Strategaeth Sgiliau Iaith y Cyngor, a hynny yn seiliedig ar anghenion y Swydd Ddisgrifiad. Yn yr achos yma, hysbysebwyd y swydd yn un Cymraeg hanfodol ar lefel 2 llafar.

“Mae’r Cyngor yn cydweithio gydag adnodd ar-lein Cymraeg y Gweithle er mwyn sicrhau y cynhelir asesiad safonol a diduedd fel rhan o’r Ganolfan Asesu swyddogol ar gyfer y swydd. Gwneir hyn law yn llaw ag asesiadau eraill.

“Rydym wedi defnyddio’r asesiadau yma gyda nifer o apwyntiadau yn y misoedd olaf, ac wedi derbyn tystiolaeth ac adborth allweddol i’r broses recriwtio.”