Mae rhan o draffordd yr M4 ger gwasanaethau Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr ynghau wedi i gar droi drosodd ar gyffordd 36.
Mae Traffig Cymru yn rhybuddio teithwyr am oedi hir yn yr ardal y prynhawn yma, gydag adroddiadau fod ciwiau o draffig yn cynyddu yno ar hyn o bryd.
Mae cerbydau’n cael eu cyfeirio o amgylch y digwyddiad.