Bws yn Sgwar Tavistock, Llundain, wedi'r ymosodiad brawychol
Bu munud o dawelwch ar draws y Deyrnas Unedig y bore yma am 11:30yb i gofio’r rhai hynny a laddwyd ac a anafwyd yn ymosodiadau brawychol 7/7 yn Llundain yn 2005.

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng Nghadeirlan San Paul am 11:30 hefyd, gan restru’r 52 o bobol a gafodd eu lladd pan ffrwydrodd bomiau yng ngorsafoedd trenau tanddaearol Russell Square, Edgware Road ac Aldgate a bws deulawr yn Sgwar Tavistock ddeng mlynedd yn ôl.

Bydd gwasanaeth pellach yn cael ei gynnal yn Hyde Park prynhawn ma ar gyfer y rhai a oroesodd yr ymosodiad a theuluoedd y dioddefwyr yn unig.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, a Maer Llundain, Boris Johnson, wedi gosod torchau o flodau wrth ymyl y gofeb barhaol yn Hyde Park yn gynharach y bore yma.


Susan Elan Jones
‘Neb yn gwybod beth oedd wedi digwydd’

Un a oedd yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005, oedd Susan Elan Jones AS De Clwyd. Roedd ei swyddfa ar y pryd wrth ymyl yr orsaf drenau yn Edgware Road, lle lladdwyd chwech o bobol yn y ffrwydrad yno.

“Yr hyn a ysgwyddodd fi,” meddai Susan Elan Jones, “oedd bod fy nghydweithiwr newydd ddod oddi ar y trên chwarter awr ynghynt.”

Ar fore 7 Gorffennaf 2015, roedd Susan Elan Jones yn gweithio yn ei chartref, ond gallai glywed seirenau’r gwasanaethau brys o bob rhan o’r ddinas.

“Doedd neb yn gwybod beth oedd wedi digwydd,” ychwanegodd, “ac er bod seirenau i’w clywed yn Llundain o hyd, ro’n i’n gwybod fod rhywbeth yn wahanol y bore hwnnw.

“Doedd dim amser i ystyried y peth, achos roedd pawb yn ofni beth fyddai’n digwydd nesaf,” ychwanegodd yr AS.

‘Pawb yn fwy gwyliadwrus’

“Aeth bywyd nôl i normal yn sydyn wedyn,” esboniodd Susan Elan Jones a deithiodd ar y gwasanaethau bws a threnau yn fuan wedi hynny.

“Ond roedd pawb yn fwy gwyliadwrus,” ychwanegodd, “byddai pobol yn amau bagiau siopau oedd wedi’u gadael ar y bysiau.”

Cofiodd hefyd sylwi fod llai o finiau sbwriel i’w cael yn y gorsafoedd wedi hynny, gyda’r awdurdodau wedi’u gwaredu am resymau diogelwch. Digwyddodd yr un peth ar ôl ffrwydrad yr IRA yn 1993 yn Bishopsgate, canol Llundain, lle lladdwyd newyddiadurwr ac anafwyd 44 o bobol.

‘Mae’n rhaid inni fod yn ofalus’

Wrth gofio’r hyn a ddigwyddodd ddeng mlynedd yn ôl, teimlai Susan Elan Jones ei bod hi’n bwysig ystyried strategaethau diogelwch i’r dyfodol hefyd.

Roedd hi’n pryderu y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd eto, yn enwedig wrth gofio’r ymosodiad brawychol diweddar yn Tiwnisia, “ond rhaid inni beidio â gorymateb,” dywedodd yr Aelod Seneddol.

“Bu farw nifer o bobol o wahanol genedligrwydd, crefyddau a chefndiroedd yn ystod ymosodiadau 7/7 – felly mae’r ymchwil i ddeall pobol o ddiwylliannau gwahanol yn hollbwysig.

“Rhaid inni fod yn fwy gwyliadwrus wrth drafod hawliau sifil,” ychwanegodd.

Bydd Susan Elan Jones yn nodi’r digwyddiad wrth gofio am y rhai a ddioddefodd, a bu’n rhan o’r munud o dawelwch a gynhaliwyd yn y Siambr yn Senedd San Steffan y bore yma hefyd.