Ffair Tafwyl
Mae gŵyl Tafwyl 2015 wedi llwyddo i dorri pob record, yn ôl y trefnwyr Menter Caerdydd.

Dywedodd prif weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis, fod yr ŵyl wedi “tyfu a thyfu fel ymateb i’r galw cynyddol yng Nghaerdydd am gyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau’r iaith Gymraeg.”

Eleni oedd y tro cyntaf i Ffair Tafwyl gael ei chynnal dros ddau ddiwrnod a daeth dros 34,000 drwy gatiau Castell Caerdydd dros y penwythnos i fwynhau gŵyl gymunedol Gymraeg fwyaf Cymru – y niferoedd uchaf yn hanes yr ŵyl ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl.

Yn ôl Menter Caerdydd, cafodd dros 200 o weithgareddau a pherfformiadau eu cynnal yn y ffair eleni – o chwaraeon i lenyddiaeth ac o goginio i gerddoriaeth.

Dywedodd Sian Lewis: “Ry’n ni wrth ein bodd gyda llwyddiant Tafwyl eleni. Mae’r niferoedd ddaeth i fwynhau Ffair Tafwyl yn brawf ein bod wedi llwyddo i greu gŵyl sydd ag apêl eang i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg Caerdydd – a thu hwnt.

“Ein targed eleni oedd denu 25,000 o bobl ac ry ni wedi cyrraedd ymhell tu hwnt i’r targed hynny. Mae Tafwyl wedi tyfu a thyfu fel ymateb i’r galw cynyddol yng Nghaerdydd am gyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau’r iaith Gymraeg.”