Mae miliynau o bobl yn talu £1.2 biliwn yn ormod am eu hynni oherwydd diffyg cystadleuaeth yn y farchnad.

Dyna gasgliad ymchwiliad blwyddyn o hyd gan y corff sy’n goruchwylio cystadleuaeth o fewn y diwydiant.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cynnal ymchwiliad i brisiau ynni sy’n cael eu cynnal gan y chwe chwmni ynni mawr – Nwy Prydain, SSE, EDF Energy, RWE npower, E.ON a Scottish Power – ac wedi darganfod eu bod 5% yn uwch na’r hyn ddylen nhw fod rhwng 2009 a 2013.

Mae’r adroddiad yn amlinellu camau i annog cwsmeriaid i newid i ddarparwyr ynni sy’n costio llai.

Roedd mwy na 34% o’r 7,000 o bobl  gafodd eu holi yn yr arolwg cynhwysfawr yn dweud nad oedden nhw erioed wedi ystyried symud i gwmni arall er mwyn talu llai am nwy a thrydan, yn ôl y CMA.