Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am oblygiadau’r Gyllideb i S4C yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu am ddim i wylwyr dros 75 mlwydd oed.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale wrth ASau heddiw ei fod yn credu ei fod yn rhesymol” bod S4C yn gwneud yr un math o arbedion y mae Llywodraeth San Steffan am i’r BBC eu gwneud.

Yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma roedd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith hefyd wedi mynegi ei phryder am doriadau posib i gyllideb S4C wrth John Whittingdale gan ddweud y byddai’n effeithio cwmnïau darlledu fel Tinopolis yn ei hetholaeth.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r sylwadau prynhawn yma yn achosi llawer o bryder. Dyw cyflwyno mwy o doriadau i S4C ddim yn opsiwn.”

Mae’r ffi drwydded yn darparu £74m i S4C, sef 90% o gyllid y sianel.

‘Dim trafodaeth’

Mewn llythyr at John Whittingdale a anfonwyd yn gynharach yn y dydd, ysgrifennodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Yn ôl yn 2010, gwnaed penderfyniad ynghylch ariannu S4C heb unrhyw ymgynghori â phobl Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Fel y gwyddoch, gwnaed toriad o 93% i’r grant gan y Llywodraeth i’r sianel, a hyd yn oed o ystyried cyfraniad ariannol drwy ffi’r drwydded, bu toriad o tua 40% i gyllideb y sianel dros y pum mlynedd diwethaf.

“Pryderwn yn fawr fod y gyllideb ddydd Mercher eto yn mynd i gael sgil effaith ar S4C nas trafodwyd ymlaen llaw gyda phobl Cymru.

“Erfyniwn arnoch i sicrhau nad oes newidiadau i gyllideb na strwythurau S4C heb ymgynghoriad llawn.

“Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth.

“Tra bod y cyfryngau Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu’n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig.