J Elwyn Hughes
Wedi cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain wrth y llyw, eleni fydd y tro olaf i J Elwyn Hughes olygu cyfrol ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’ yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ers cychwyn ar y gwaith yn Eisteddfod Rhyl, 1985, mae’r awdur a’r academydd sy’n byw ym Methel ger Caernarfon, wedi casglu a pharatoi beirniadaethau a gwaith y buddugwyr ar gyfer y gyfrol sy’n cael ei chyhoeddi ar brynhawn Gwener olaf yr Eisteddfod bob blwyddyn.
‘Diwedd pennod’
Mae Elwyn Hughes yn rhoi’r gorau iddi er mwyn gallu canolbwyntio ar ysgrifennu am ei hoff bynciau, sy’n cynnwys hanes lleol Dyffryn Ogwen, ei fro mebyd.
Dywedodd wrth Golwg360: “Dwi wedi bod wrthi ers 30mlynedd ac wedi golygu 23 cyfrol. Saith oedd y nifer fwyaf o gyfrolau ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’ yr Eisteddfod a olygwyd gan unrhyw un o ‘mlaen i , felly ‘dwi wedi gwneud cymaint ag y gallwn i, ac mae’n amser i mi adael i rywun arall gymryd drosodd.
“Mae’n ddiwedd pennod. Mae’r gwaith yn llafurus am gyfnod wrth fynd drwy 100,000 a mwy o eiriau gan chwilio am lithriadau a cham-deipiadau.”
Ychwanegodd Elwyn Hughes, sy’n arbenigwr ar hanes Caradog Prichard: “’Dwi wedi gwneud ffrindiau, ac ambell elyn wrth gwrs. Wedi siarad â rhai o gewri’r genedl ac wedi mwynhau gweithio gyda staff yr Eisteddfod yn lleol ac yng Nghaerdydd yn ogystal â’r beirniaid a’r buddugwyr.”
‘Llygad craff’
Mae Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis wedi rhoi teyrnged i Elwyn Hughes am ei waith: “Hoffwn dalu teyrnged i Elwyn Hughes am ei gyfraniad i’r Eisteddfod. Nid ar chwarae bach mae golygu cyfrol fel y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a hynny heb lawer o amser i gwblhau’r gwaith.
“Er mai dim ond am gyfnod byr o’i gyfnod y bûm i’n cydweithio gydag Elwyn, mae’i ymroddiad, ei lygad craff a’i waith manwl wedi bod yn gaffaeliad pendant i ni, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei holl waith ac yn dymuno pob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad.”
Golygydd newydd
Yn gynharach eleni penodwyd W Gwyn Lewis yn olygydd newydd ar y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, ac ar ôl cyfnod yn cysgodi Elwyn Hughes eleni, fe fydd yn mynd ati i ymgymryd â’r gwaith ar ei ben ei hun o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Rhwng 1985 a 1999, gorchwyl bob yn ail flwyddyn oedd golygu’r gyfrol ond aeth yn dasg flynyddol o 2000 ymlaen, ac yn ystod y cyfnod hwn crëwyd hanes gan amryw o enillwyr ac aeth ambell Gadair heb ei hennill.
Yn 1985, enillodd y dysgwr cyntaf un o brif wobrau’r Eisteddfod, pan ddaeth Robat Powell i’r brig yng nghystadleuaeth y Gadair. Sir Ddinbych oedd cartref yr Eisteddfod eto pan gipiodd ferch y Gadair am y tro cyntaf erioed, pan enillodd Mererid Hopwood yn 2001.
Bydd cyfle i glywed rhai o atgofion J Elwyn Hughes am ei gyfnod fel golygydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau mewn sesiwn yn y Babell Lên, ddydd Sul, 2 Awst am 11.45 pan fydd y Prifardd Ieuan Wyn a chyn-drefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, yn ymuno ag Elwyn Hughes, dan gadeiryddiaeth Robin Gwyndaf.