Leanne Wood
Mae Leanne Wood bellach yn fwy adnabyddus ymysg y cyhoedd yng Nghymru na’r Prif Weinidog Carwyn Jones, yn ôl arolwg newydd.

Awgrymodd ffigyrau pôl diweddaraf YouGov bod rhyw dri chwarter o bobl Cymru yn gwybod pwy oedd arweinwyr Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad, llawer mwy nag unrhyw arweinydd Cymreig arall.

Roedd Leanne Wood hefyd yn hafal â Carwyn Jones pan ddaeth at roi sgôr i’r gwleidyddion allan o ddeg, gyda’r ddau ohonyn nhw yn cael cyfartaledd o 4.8.

Ar y llaw arall, arweinydd UKIP yng Nghymru Nathan Gill oedd â’r sgôr isaf o’r holl wleidyddion, yn ogystal â’r canran uchaf oedd ‘ddim yn gwybod’ pwy oedd o.

Ddim yn adnabyddus

Fe ofynnodd pôl YouGov, ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru wrth bobl am roi marc allan o ddeg i bob gwleidydd, gyda’r opsiwn o ddewis ‘ddim yn gwybod’.

Yn ôl yr Athro Roger Scully, mae’r nifer sydd yn dewis ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer arweinydd yn gallu bod yn arwydd da o faint sydd ddim yn gwybod am y gwleidydd hwnnw.

Yn yr arolwg fe ddewisodd 22% yn opsiwn ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer Leanne Wood, gyda 26% yn gwneud hynny ar gyfer Carwyn Jones.

Roedd arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru yn bell ar ei hôl hi gyda Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) ar 41%, Andrew RT Davies (Ceidwadwyr) ar 48%, Pippa Bartolotti (Gwyrddion) ar 61% a Nathan Gill (UKIP) ar 62%.

O’i gymharu â’r arweinwyr hynny dim ond 6% oedd ‘ddim yn gwybod’ beth oedd eu barn am Brif Weinidog Prydain, David Cameron.

Neb yn boblogaidd

Awgrymodd yr arolwg hefyd nad oedd gan gyhoedd Cymru barch uchel tuag at yr un o’r gwleidyddion, gyda dim un ohonyn nhw’n sgorio cyfartaledd o bump neu fwy.

Carwyn Jones a Leanne Wood oedd yr uchaf ar 4.8 yr un, gyda Phrif Weinidog Cymru yn llithro 0.2 pwynt ond arweinydd Plaid Cymru yn aros ar yr un sgôr.

Cafodd Kirsty Williams sgôr o 4.4 (dim newid), arhosodd David Cameron ar 3.8, cododd Pippa Bartolotti (+0.4) ac Andrew RT Davies (+0.3) i 3.7 yr un, ac roedd Nathan Gill ar 3.4, 0.4 yn uwch na’r arolwg diwethaf ym mis Mai.

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru, nhw oedd â’r rheswm mwyaf i fod yn falch o ganlyniadau’r arolwg diweddaraf.

“Mae’n galonogol iawn gweld bod cefnogaeth Plaid Cymru yn parhau yn gryf ac mai Leanne Wood yw’r arweinydd mwyaf adnabyddus o unrhyw blaid wleidyddol yng Nghymru bellach,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r ffaith bod Leanne nawr yn hafal â’r Prif Weinidog o ran y sgôr cyfartalog i’r arweinwyr yn sail gadarn i Blaid Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer ymgyrch yr etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf.”