Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae tri dyn wedi eu cael yn euog o droseddau rhyw yn ardal Wrecsam yn dyddio nôl i’r 1980au.

Cafodd y tri eu canfod yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw, ac mae’r achos yn erbyn pedwar dyn arall yn parhau i gael eu hystyried.

Roedd dau o’r dynion – Gary Cooke (64 oed) a David Lightfoot (72 oed) wedi’u cael  yn euog o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Clywodd y llys bod bechgyn ifanc wedi dioddef ymosodiadau rhywiol mewn partïon oedd yn cael eu cynnal yng nghartref Gary Cooke.

Cafwyd Gary Cooke yn euog o 16 trosedd rywiol, David Lightfoot yn euog o naw trosedd, a Roy Norry (55 oed) yn euog o chwe throsedd.

Ymgyrch Pallial

Cafodd pob un o’r saith dyn eu harestio fel rhan o Ymgyrch Pallial sy’n ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin plant ar draws Gogledd Cymru.

Mae’r rheithgor dal yn ystyried eu dyfarniad yn erbyn pedwar dyn arall – Roger Griffiths (76 oed), Keith Stokes (62 oed), George Phoenix (63 oed) ac Edward Huxley (70 oed).

Mae Roger Griffiths a Keith Stokes eisoes wedi’u canfod yn ddieuog o un cyhuddiad yr un, ond mae nifer o gyhuddiadau eraill yn erbyn y pedwar yn dal i gael eu hystyried.