Mae cwmni rhyngwladol Amazon wedi ennyn ymateb chwyrn, yn dilyn adroddiadau fod ei is-gwmni Prydeinig wedi talu £11.9 miliwn yn unig mewn treth, tra bod y cwmni wedi gwneud £5.3 biliwn mewn gwerthiant gan siopwyr o Brydain.

Mae’r is-gwmni, sy’n cyflogi mwy na 7,700 o bobl ym Mhrydain, gan gynnwys storfa ddosbarthu yng Nghastell Nedd Port Talbot, wedi gweld cynnydd o 14% mewn gwerthiant y llynedd, yn ôl Tŷ’r Cwmnïau.

Ond mae’r is-gwmni wedi cofnodi elw o £34.4 miliwn yn unig, ac felly wedi talu £11.9 miliwn mewn treth.

Mae’r gwerthiant ym Mhrydain yn cynrychioli 9.4% o drosiant byd-eang, sy’n cael ei redeg trwy’r is-gwmni yn Lwcsembwrg, dan yr enw Amazon EU Sarl. Mae gwerthiant o sawl gwlad yn Ewrop yn mynd trwy Luxembourg, gydag unrhyw werthiant yn osgoi cael ei drethu yn y wlad lle wnaed y pryniant.

O ganlyniad i’r pwysau cynyddol, fe ddywedodd Amazon eu bod wedi dechrau cofnodi gwerthiant ym Mhrydain , a fydd o ganlyniad yn golygu eu bod yn talu mwy o drethi.

Dywedodd prif weithredwr Cyngres y Trethdalwyr, Jonathan Isaby: “Rydych yn deall dicter pobl yn erbyn cwmnïau fel Amazon sy’n cael eu gweld fel nad ydyn nhw yn talu eu siâr, ond dylai ein rhwystredigaeth gael ei anelu at wleidyddion a biwrocratiaid sydd wedi creu’r cod treth hynod o gymhleth.”

Ychwanegodd: “Mae’n hen bryd i symleiddio’r cod treth er mwyn ei gwneud yn haws i’w gweinyddu, a sicrhau fod yna linell fwy amlwg, gyda threthi tecach ac is yn gyffredinol.”

Ym mis Ebrill, fe ddywedodd y Canghellor George Osborne fod cwmnïau sy’n symud eu helw dramor er mwyn osgoi treth yn gorfod wynebu cael eu trethu ar eu helw. Mae’r dreth hon wedi’u chreu i rwystro cwmnïau mawr rhag dargyfeirio elw o Brydain i osgoi treth.