Ian Jones, prif weithredwr S4C
Mae Aelodau Cynulliad wedi datgan eu gwrthwynebiad i unrhyw doriadau pellach i gyllideb S4C, gan fynnu bod angen i’r llywodraeth warchod annibyniaeth olygyddol y sianel.

Mewn trafodaeth ar lawr y Senedd, fe bleidleisiodd yr ACau o blaid cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn datgan eu cefnogaeth i barhad y sianel.

Cafodd hynny ei groesawu gan brif weithredwr S4C, Ian Jones, a ddywedodd ei fod yn “gwerthfawrogi’r gefnogaeth eang” i waith a phwysigrwydd y sianel.

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o arian S4C yn dod oddi wrth  drwydded deledu’r BBC, ond mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r ffynonellau ariannol yn y tymor hir.

Adnewyddu’r Siarter

Ar hyn o bryd mae £74m o arian S4C yn cael ei ddarparu drwy’r ffi drwyddedu, a hynny’n 90% o gyllid y sianel.

Ond mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon newydd John Whittingdale wedi dweud yn y gorffennol ei fod o blaid cael gwared â’r ffi drwyddedu a newid y ffordd mae sianeli teledu yn cael eu hariannu.

Bydd Siarter y BBC hefyd yn cael ei hadnewyddu erbyn 2017, ac fe allai’r trafodaethau hynny ar faint eu cyllid gael effaith ar ffynonellau ariannol S4C.

Mae’r £8m ychwanegol o gyllid S4C yn dod oddi wrth Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan, ond does dim sicrwydd eto y bydd hynny’n parhau ar ôl y flwyddyn hon.

‘Cefnogaeth drawsbleidiol’

Cafwyd croeso i’r bleidlais yn y Cynulliad yn galw am setliad ariannol cynaliadwy i’r sianel ar gyfer y dyfodol gan Brif Weithredwr S4C, Ian Jones.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth eang sydd wedi’i datgan ar draws y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol, a chan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth y mae S4C yn ei ddarparu a phwysigrwydd gwaith y sianel ar gyfer dyfodol yr iaith a’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n glir bod yna gefnogaeth drawsbleidiol dros sicrhau bod S4C yn parhau’n annibynnol, gan dderbyn arian digonol i barhau i fedru darparu gwasanaeth Cymraeg o safon uchel i gwrdd â gofynion yr oes fodern.

“Fe fyddwn ni’n parhau dros y misoedd nesaf i gynnal perthynas agos gyda Llywodraeth y DU gyda’r bwriad o sicrhau trefniadau fydd yn bodloni gofynion gwasanaeth darlledu cyhoeddus ar gyfer siaradwyr Cymraeg.”

‘Neges glir’

Yn ôl llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y Gymraeg, Aled Roberts, roedd pleidlais y Cynulliad yn ddatganiad pendant nad oedden nhw eisiau gweld y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn peryglu dyfodol S4C.

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi anfon neges glir i’r Torïaid yn Llundain: ni fyddwn yn derbyn toriadau difrifol i’n sianel Cymraeg hollbwysig ni,” meddai Aled Roberts.

“Mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol i amddiffyn ein hiaith a chyfoethogi diwylliant Cymreig, yn ogystal â dod ag elw i’r economi leol. Mae pob £1 a wariwyd gan S4C yn werth £2.09 i’r economi Gymreig ac ers lansio’r sianel yn 1982 mae hi wedi dod â dros £2.2bn o fuddsoddiad i Gymru.

“Wrth i drafodaethau dros adnewyddu Siarter y BBC ddechrau’r haf hwn, mae hi’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi achos cryf dros ddyfodol S4C.

“Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr gyfaddef eu cynlluniau am ddyfodol S4C er mwyn rhoi diwedd i’r ansicrwydd presennol, er mwyn i’r sianel barhau i gomisiynu’r rhaglenni Cymraeg rydym ni oll yn mwynhau.”