Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Mae un o uwch swyddogion y lluoedd arfog arbenigol wedi dweud mai diffyg hyfforddiant cychwynnol oedd wedi arwain at farwolaeth tri o filwyr yng ngwres Bannau Brycheiniog ym mis Gorffennaf 2013.

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts wrth iddyn nhw ymgymryd â phrofion ffitrwydd ar gyfer yr SAS mewn gwres llethol.

Mynnodd yr uwch swyddog – sy’n cael ei adnabod yn ystod y cwest wrth yr enw SR44 – nad oedd ymddygiad na gweithredoedd ei staff yn gyfrifol am farwolaeth y tri.

Dywedodd fod pob un o’r ymgeiswyr ond un wedi cwblhau’r daith 16 milltir ar droed, a’i fod yn credu mai hyfforddiant cychwynnol annigonol oedd ar fai am y marwolaethau ac am y ffaith fod nifer o’r ymgeiswyr wedi’i chael yn anodd cwblhau’r profion.

Clywodd y cwest yn Solihull fod mwy na chwarter y 37 o ymgeiswyr wedi dioddef o ganlyniad i’r gwres.

Hefyd ar y daith roedd 41 o filwyr oedd wedi derbyn yr hyfforddiant cychwynnol pwrpasol ar gyfer y profion. Roedd yr ymgeiswyr wedi cael hyfforddiant gwahanol i’r milwyr eraill.

Dywedodd SR44 wrth y cwest: “Yn fy marn i, roedd sawl ffactor a gyfrannodd [at eu marwolaeth].

“Dw i ddim yn credu bod y ffordd gafodd yr orymdaith ei chynnal yn un o’r ffactorau hynny, na chwaith ymddygiad 1A ac 1B (swyddogion hyfforddiant lluoedd signalau).

“O blith y rhai hynny oedd wedi gwneud hyfforddiant cychwynnol yn fy uned i, gwnaeth pawb heblaw am un ei gwblhau ar y diwrnod hwnnw, a doedd yr un hwnnw ddim o ganlyniad i’r gwres.

“Y gwahaniaeth yn yr hyfforddiant cychwynnol wnes i ei nodi fel y prif ffactor.”

Mae’r cwest yn parhau.