Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y swm sy’n cael ei wario gan y Gwasanaeth Iechyd ar wasanaethau canser yng Nghymru wedi codi’n uwch nag erioed.

Dangosodd Cyllidebau Rhaglen Wariant 2013-14 bod y gwariant ar ganser wedi cynyddu £20 miliwn o £360.9 miliwn yn 2012-13 i £380.1 miliwn yn 2013-14.

Fesul pen, mae’n golygu bod £123.32 bellach yn cael ei wario ar gleifion.

Ar y cyfan, fe gafodd £5.6 biliwn ei wario ar wasanaethau gofal sylfaenol, fel meddygon teulu a deintyddiaeth, yn ogystal â gwasanaethau yn yr ysbyty yn 2013-14.

Mae hyn 2.4% yn uwch nag a wariwyd ar iechyd yn 2012-13, yn ôl y Llywodraeth.

‘Gofal o’r ansawdd gorau’

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford ei fod yn benderfynol o sicrhau bod pob person yng Nghymru yn cael “gofal o’r ansawdd gorau”.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod bellach yn gwario mwy nag erioed ar ofal canser yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pa mor benderfynol ydyn ni i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobol Cymru.”