Enw llawn: Teresa Davies

Dyddiad geni: 31/10/1960

Man geni: Ysbyty Gyffredinol Bronglais, Aberystwyth


Nyrs sydd wedi ymddeol yw Teresa Davies, sy’n byw ger Llangeitho yng Ngheredigion. Petai’n gorfod disgrifio’i hun mewn tri gair, amyneddgar, consyrnol a sensitif fyddai hynny; rhinweddau fyddai’n chwarae rôl amhrisiadwy wrth ei helpu i ddelio â’r hunllef fwyaf iddi ei phrofi erioed, bum mlynedd yn ôl.

Fe gollodd Teresa ei merch Eiry fis Medi 2019 yn 35 mlwydd oed. Roedd Eiry wedi bod yn dioddef am unarddeg mis ar ôl cael ei diagnosis o ganser y coluddyn.

“Dw i’n ymdrechu’n ddyddiol i oresgyn fy ngalar ar ôl colli Eiry, a dw i’n gwybod na fyddaf yn dod dros y golled tra byddaf fyw. Roedd hi’n fam sengl i Megan oedd yn 9 oed [pan gollodd hi ei mam].

“Fi a’m gŵr Viv nawr sy’n dwyn Megan i fyny, ac mae’n rhoi pwrpas i’n bywydau. Hefyd, mae cefnogaeth ein merch arall, Alaw, a’i theulu a Tomos y mab a’i bartner yn golygu cymaint i ni,” meddai, gan ychwanegu iddi golli ei mam dri mis ar ôl colli Eiry.

“Rwy’n edrych ar fywyd mewn persbectif gwahanol erbyn hyn. Dw i hefyd wedi dysgu pwy yw fy ngwir ffrindiau… sawl un wedi troi cefn dros y bum mlynedd diwethaf, oedd yn brifo’n ddifrifol ar y cychwyn, ond erbyn hyn dw i wedi derbyn eu penderfyniad i ollwng ein perthynas er mwyn fy lles fy hunan.”

Breuddwyd

Un freuddwyd benodol sydd gan Teresa Davies yw ysgrifennu llyfr am ei thaith galar, er mwyn “rhannu profiadau, teimladau a bod yn gysur i eraill” sydd wedi bod neu’n mynd trwy’r un profiadau.

Bedair blynedd yn ôl, fe ddechreuodd Teresa wau, ac mae bellach yn un o’i phrif ddiddordebau.

“Mae’n ffordd i mi ymgolli a throi bant o fywyd, ac yn hwylus i’w gario gyda mi i bobman. Hefyd dw i wrth fy modd yn gwneud celf – darlunio, gwnïo ac ati – ond ers colli Eiry, dydw i ddim yn gallu troi mor aml ato, gan fod hithau ar ôl cyfnod yn dysgu yn yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth wedi creu ei busnes celf ei hunan, ac mae’n peri gormod o loes i mi fwrw ati ar hyn o bryd gan fod yr atgofion ohonon ni’n dwy yn cydweithio yn rhy amrwd.

“Rwy’n hoff iawn o ddarllen dyfyniadau am fywyd a cholled. Mae fy ffôn yn llawn o eiriau’r prydydd Rumi, ac rwy’n troi’n ddyddiol atyn nhw. Un o fy hoff rai yw hwn… ‘Eich heol chi yw hi, eich un chi yn unig. Gall eraill ei cherdded hi gyda chi, ond ni all unrhyw un ei cherdded ar eich rhan’.

Petai Teresa yn cael treulio diwrnod yng nghwmni unrhyw un, yng nghwmni Nia Caron yr actores fyddai hynny – ar ôl i’r ddwy dreulio amser gyda’i gilydd yn yr ysgol uwchradd. Roedd ei thad yn athro celf arni hefyd.

“Roeddwn eisiau dilyn gyrfa mewn Celf, ond roedd syniadau eraill gan fy rhieni, a nyrsio oedd y llwybr gymerais. Bues i a Nia’n cyd-fyw tra ei bod hi’n dilyn cwrs Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, erbyn hyn, gan ei bod hi’n byw yng Nghaerdydd a finne’n “homebird”, yn anaml iawn y cawn gwrdd, ond mi rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad yn aml. Dw i’n meddwl y buasen ni yn rhoi’r dewis i Nia o ble i fynd, ond tybiwn rywle eithaf tawel i ni gael siarad fel pwll y môr a rhannu atgofion.”

‘Galar unigryw’

Tasai Teresa yn cael rhoi darn o gyngor iddi hi ei hun yn ferch fach, byddai’n dweud: “Mae angen byw un dydd ar y tro, fel mae’r gân yn dweud. Mae ddoe wedi mynd, mae heddiw’n eiddo i ni.”

Mae’n dweud ei bod yn hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi ymestyn eu cariad a’u cyfeillgarwch tuag ati dros y pum mlynedd diwethaf.

“Mae colli plentyn yn alar unigryw iawn; trefn bywyd wedi chwyrlio allan o bob rheswm. Mae rhai yn dweud fy mod yn gryf iawn i gario ymlaen, ond y gwir yw dw i ddim yn gryf o gwbl… Does gen i ddim dewis ond i fod yn gryf.”