Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Mae dirprwy bennaeth staff yr SAS wedi dweud wrth gwest nad oedd yr asesiad risg a gynhaliwyd yn ystod ymarferiad ar Fannau Brycheiniog yn “ddigon da” i atal marwolaethau tri milwr.
Dywedodd y swyddog, sy’n cael ei gyfeirio ato fel AA am resymau diogelwch, ei fod wedi methu ymchwilio’n llawn i’r marwolaethau oherwydd bod ymchwiliad troseddol ar y gweill.
Bu farw Craig Roberts o Fae Penrhyn ac Edward Maher yn ystod y daith gerdded 16 milltir ar fynydd Pen y Fan ar 13 Gorffennaf 2013 – a bu farw James Dunsby yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach.
Wrth roi tystiolaeth yn y cwest, dywedodd swyddog AA fod y modd y cafodd yr asesiad risg cyffredinol ei baratoi cyn yr ymarferiad yn dderbyniol.
Ond cyfaddefodd fod “camgymeriad difrifol” wedi cael ei wneud ar ddiwrnod y daith gerdded a bod yr asesiad risg o ddiogelwch y milwyr a gynhaliwyd gan y rhai oedd wrth y llyw wedi “methu” a’i fod wedi methu ag atal marwolaethau’r tri milwr.
O ran y staff oedd yn cyfarwyddo’r ymarferiad dywedodd AA: “Rydym fel corff wedi methu rhoi’r wybodaeth neu’r ddealltwriaeth (o salwch gwers) a oedd ei angen.”
Ers hynny mae newidiadau wedi bod i’r broses hyfforddi milwyr wrth gefn, meddai AA.
Mae’r cwest yn Solihull yn parhau.