David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu bod gweinidogion yn paratoi at wneud toriadau llym i gredydau treth, wrth iddo amddiffyn cynlluniau’r llywodraeth i dorri £12 biliwn o’r system fudd-daliadau lles.

Mewn araith yn Runcorn heddiw, dywedodd bod angen i Brydain gynyddu nifer y bobol sydd ar gyflogau uwch yn hytrach na cheisio delio hefo’r “symptomau” o gyflogau isel trwy roi cymorthdaliadau.

Eisoes, mae’r Canghellor George Osborne wedi cadarnhau cynlluniau i dorri £12 biliwn ychwanegol o wariant budd-daliadau lles.

Mae disgwyl i’r toriadau hyn effeithio fwyaf ar bobol sy’n cael budd-daliadau tai a chredydau treth.

“Mae pobol sydd ar yr isafswm cyflog yn talu trethi i’r Llywodraeth, ond rydym ni wedyn yn talu’r arian hynny yn ôl iddyn nhw mewn budd-daliadau,” meddai David Cameron.

“Dyma ddelio hefo symptomau’r broblem yn hytrach na helpu i greu swyddi sy’n talu’n dda.”

Ychwanegodd mai’r bwriad oedd creu “cymdeithas decach.”

‘Trychinebus’

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion lles, Hywel Williams AS, wedi rhybuddio y bydd “diwylliant o doriadau’r” Prif Weinidog yn profi’n drychinebus i filoedd o bobl ddi-waith a rhai ar gyflogau isel fydd yn debygol o ddioddef toriadau i’w credydau treth a thaliadau eraill.

Wrth ymateb i araith David Cameron dywedodd Hywel Williams y byddai cynnydd mewn costau rhentu a swyddi sy’n talu’n wael yn chwyddo, yn hytrach na gostwng, y bil diogelwch cymdeithasol.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Os na fydd barn y Ceidwadwyr fod toriadau’n anochel yn cael ei herio, rydym mewn perygl o lyncu’r celwydd nad oes ffordd arall yn bosib.

“Gyda’r Blaid Lafur yn dawel eu beirniadaeth, mae Plaid Cymru ac eraill yn ymddwyn fel y gwir wrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth yma i gosbi gweithwyr ar gyflogau isel a rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau o blaid mesurau adeiladol i daclo’r bil lles, megis camau i reoli rhent a chyflwyno cyflog byw.

“Mae’r holl dystiolaeth yn dangos mai arbrawf ideolegol yw llymder. Bydd diwylliant newydd o doriadau’r Prif Weinidog yn creu cymdeithas dlotach – yn foesol ac yn ariannol, a bwriad ASau Plaid Cymru yw herio hyn pob cam o’r ffordd.”