Julia Gillard
Fe fydd cyn Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, yn cael ei chyflwyno â Chymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth nesa, 30 Mehefin.
Bydd Julia Gillard yn ymweld ag Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth i roi darlith gyhoeddus pan fydd y Brifysgol yn cydnabod ei chyfraniad sylweddol at fywyd cyhoeddus drwy ei gwneud hi’n Gymrawd.
Mae Cymrodoriaethau yn cael eu rhoi er mwyn anrhydeddu unigolion sydd â chyswllt ag Aberystwyth neu â Chymru yn gyffredinol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes.
Ganed Julia Gillard yn y Barri ym Mro Morgannwg ac fe ddaeth y 27ain o Brif Weinidogion Awstralia yn 2010, gan wasanaethu tan Fehefin 2013.
Hi oedd y ddynes gyntaf i wasanaethu fel dirprwy Brif Weinidog a Phrif Weinidog Awstralia ac yn 2012, cafodd Julia Gillard sylw o bedwar ban byd am ei haraith yn y Senedd am y driniaeth y mae menywod yn ei chael yn y bywyd proffesiynol a chyhoeddus.
Mae Julia Gillard yn Gymrawd Arbennig y Ganolfan Addysg Gyffredinol yn Sefydliad Brookings, Washington.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser gennyf groesawu Julia Gillard i Aberystwyth, i’r Brifysgol, ac i’n cymuned nodedig o Gymrodorion.
“Edrychaf ymlaen at glywed am ei phrofiadau a’i llwyddiannau fel Prif Weinidog Awstralia, ac anogaf bawb sydd â diddordeb yn nhirwedd gwleidyddiaeth fyd-eang byd ac yn nyfodol addysg i ddod i’r digwyddiad hwn.”
Mae darlith a chyflwyniad y Gymrodoriaeth i Julia Gillard ar agor i’r cyhoedd, ac mae modd i bobl archebu eu lle yn rhad ac am ddim yn: http://www.aber.ac.uk/cy/events/lectures/julia-gillard/booking/