Fe fydd Cyngor Powys yn cynnal cyfarfod heno i drafod darpariaeth addysg Gymraeg yn y sir.

Yn gynharach yn y flwyddyn, fe gyhoeddodd y cyngor gynlluniau i symud addysg Gymraeg o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i ysgol arall – Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt i ddechrau ac yna Campws Dysgu Aberhonddu – erbyn 2016.

Mae cynlluniau gwerth £55 miliwn ar gyfer datblygiad Campws Dysgu Aberhonddu, ysgol ar gyfer 1,000 o ddisgyblion 11-16 oed, eisoes wedi ennyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Byddai’n cymryd lle Ysgol Uwchradd Aberhonddu a Gwernyfed ac yn agor erbyn 2018.

“Dyma’r prosiect fwyaf gan y cyngor sir a’i bartneriaid ac fe fydd yn darparu’r adnoddau gorau posib i’n dysgwyr ifanc,” meddai’r cynghorydd dros addysg Arwel Jones.

Bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf o ddau yn cael ei gynnal rhwng 4:00-8:00 heno yn Ysgol Aberhonddu ac yna yn Ysgol Llanfair ym Muallt ar 25 Mehefin.