Fe fydd yr ail fferm wynt fwyaf yn y byd, Gwynt y Môr, oddi ar arfordir gogledd Cymru, yn cael ei hagor yn swyddogol heddiw.
RWE Innogy sy’n gyfrifol am y cynllun £2 biliwn oddi ar arfordir Llandudno a Bae Colwyn.
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ymuno a phrif weithredwr RWE, Peter Terium, i agor y fferm wynt ar ei safle ym Mhorthladd Mostyn y bore ma.
Fe fydd 160 o dyrbinau Gwynt y Môr yn cynhyrchu hyd at 576 megawat o drydan sy’n ddigon i gyflenwi mwy na 400,000 o gartrefi, yn ôl y cwmni.
Mae disgwyl i’r cynllun hefyd gyflogi 100 o weithwyr yn y tymor hir. Mae Gwynt y Môr wedi cyfrannu £90 miliwn i gwmnïau yng Nghymru wrth gael ei hadeiladu.
Dywedodd Carwyn Jones: “Mae Gwynt y Môr yn gyflawniad sylweddol a bydd yn parhau i ddod a nifer o fuddion i ardal gogledd Cymru.
“Mae cwmnïau lleol ymhlith y rhai sydd wedi elwa yn ystod y gwaith adeiladu a bydd y safle yn parhau i ddod a chyflogaeth a chyfleoedd am flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd bod pobl ifainc yn cael hyfforddiant ar gynllun prentisiaeth ynni gwynt Grŵp Llandrillo Menai a chyrsiau yn y Ganolfan Ynni yn Llangefni.