Cynlluniau ar gyfer Lagwn Llanw Abertawe
Mae’r cwmni tu ôl i Lagŵn Llanw Bae Abertawe wedi gorfod amddiffyn ei ddewisiadau busnes yn sgil honiadau bod cytundeb gwerth £300 miliwn i adeiladu morglawdd o fewn y prosiect wedi cael ei gyflwyno yn “amhriodol”.
Cafodd y cytundeb ei roi i Gwmni China Harbour Engineering ar ôl i Lywodraeth Prydain gymeradwyo’r cynllun yr wythnos ddiwetha’.
Y gred yw bod cyfreithwyr cwmni o Wlad Belg, fu’n cystadlu am y cytundeb, wedi cyflwyno her gyfreithiol sy’n honni bod agwedd gwrth-gystadleuol o fewn y broses dendro i ddewis datblygwyr, yn ôl adroddiadau ym mhapur y Guardian.
Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o’r honiadau ac mae cwmni Tidal Lagoon wedi gwadu unrhyw gamymddwyn yn chwyrn.
Ar ôl cael ei gwblhau, bydd y prosiect gwerth £1 biliwn yn cyflenwi trydan ar gyfer mwy na 150,000 o dai.
Cystadleuol
Meddai llefarydd ar ran Tidal Lagoon mewn datganiad: “Fe wnaethom gynnal tendr cadarn a chystadleuol iawn i holl adrannau o brosiect Lagŵn Llanw Bae Abertawe.
“Doedd hi ddim yn syndod i ni fod pob cwmni oedd yn ymgeisio am dendr eisiau bod yn rhan o brosiect mor arloesol.
“Mae pob tendr yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn cyhoeddi manylion y cwmnïau na’r ceisiadau gafodd eu cyflwyno.”