Rebecca Minnock gyda'i mab Ethan Williams
Mae mam aeth ar ffo am 17 diwrnod gyda’i mab tair oed wedi cyrraedd y llys i egluro ei gweithredoedd gerbron barnwr.

Fe wnaeth Rebecca Minnock, 35, ddiflannu gyda’i mab Ethan Williams ar 27 Mai er gwaethaf gorchymyn llys y dylai’r bachgen fod yng ngofal ei dad, Roger Williams.

Roedd Rebecca Minnock, o Wlad yr Haf, wedi mynd at yr heddlu o’i gwirfodd yn Rhydychen nos Wener yn dilyn apêl gan yr heddlu ac aelodau o’i theulu.

Ers hynny, mae Ethan Williams wedi cael ei roi yng ngofal ei dad.

Mae un barnwr eisoes wedi dod i’r casgliad fod Rebecca Minnock wedi anwybyddu dau orchymyn llys, ac fe allai ei chael yn euog o ddirmyg llys a allai olygu cyfnod yn y carchar.

Dywedodd Rebecca Minnock wrth y Daily Mail ei bod hi’n poeni nad yw hi’n mynd i weld ei mab eto.

Cafodd mam Rebecca Minnock, Louise Minnock, a’i phartner Andrew Butt, eu carcharu ddydd Gwener am helpu Rebecca i ddianc ar y diwrnod yr oedd disgwyl iddi drosglwyddo Ethan i’w dad.

Cafodd Louise Minnock ei charcharu am 10 diwrnod a chafodd Andrew Butt ei garcharu am 28 diwrnod am gelu gwybodaeth am ddiflaniad y plentyn.