Leanne Wood
Bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn amlinellu gweledigaeth ei phlaid am ddiwygio llywodraeth leol pan fydd yn siarad mewn dadl yn y Cynulliad ddydd Mercher.

Mae disgwyl i Leanne Wood gadarnhau fod Plaid Cymru yn gwrthod y patrwm o uno cynghorau – gafodd ei gynnig gan Gomisiwn Williams ac a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru – a’i bod o blaid awdurdodau rhanbarthol cyfun.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, gyhoeddi cynlluniau ynglŷn ag ailwampio’r awdurdodau lleol yn ddiweddarach yr wythnos hon.

‘Atebolrwydd’

Dan gynigion Plaid Cymru, byddai rhwng pump a saith o awdurdodau rhanbarthol cyfun yn cael eu sefydlu i gyflawni swyddogaethau rhanbarthol presennol fel trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynllunio – ond byddai ganddynt hefyd y grym i wella gwasanaethau cyhoeddus eraill fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru,  Leanne Wood: “Bydd y cynigion hyn yn golygu asio rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau rhanbarthol presennol, megis y consortia addysg.

“Er y bydd y 22 awdurdod presennol yn cael eu cadw er mwyn cyflwyno atebolrwydd lleol, ar y cyd fe fyddant yn ethol awdurdodau rhanbarthol i ymgymryd â’r swyddogaethau hynny sydd yn gofyn am agwedd ranbarthol, integredig.

“Bydd atebolrwydd yn ôl gyda’r 22 awdurdod lleol presennol ac ni fydd angen unrhyw gynghorau na swyddogion ychwanegol.

“Yn hytrach na chael toreth o gonsortia, byrddau a phwyllgorau gyda gwahanol ffiniau yn torri ar draws ei gilydd, fe geir awdurdodau rhanbarthol wedi’u hail-lunio, fydd yn rhoi eglurder, pwrpas ac atebolrwydd democrataidd.”

‘Awdurdodau cyfun cryf’

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Comisiwn Williams, dywedodd Plaid Cymru nad oedd y “statws quo yn opsiwn” a’u bod wedi ymgynghori yn fewnol gydag aelodau’r blaid ynghylch faint o gefnogaeth oedd i’r newid.

Dywedodd Leanne Wood: “Bydd Plaid Cymru mewn sefyllfa i fynd i etholiadau’r flwyddyn nesaf gydag agenda o ddiwygio a bwriad i greu awdurdodau cyfun cryf all gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol a chwarae rhan economaidd allweddol.

“Does dim rheswm dros gyflwyno pob un gwasanaeth cyhoeddus 22 o weithiau, ond ddylen ni ddim chwaith ruthro am ateb cyflym nad yw’n cynnwys ystyriaeth lawn o’r gwasanaeth iechyd.

“Bydd agwedd Plaid Cymru yn sicrhau na fydd yr un gymuned yn cael ei gadael ar ôl.”