Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ffordd neithiwr ger Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw am 11:18 neithiwr i’r digwyddiad ar Ffordd y Mynydd ger Trimsaran.
Cafodd dau ddyn 17 mlwydd oed eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae’r lon yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae’r heddlu hefyd wedi cadw ail gar ar y safle fel rhan o’r ymchwiliad.
Mae tystion i’r ddamwain yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu ar 101.