Neuadd Pantycelyn
Mae tua 15 o brotestwyr wedi meddiannu un o’r ystafelloedd cyffredin yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth – y cam diweddaraf yn y frwydr i sicrhau nad yw’r neuadd yn cau i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol o fis Medi ymlaen.

Roedd disgwyl i breswylwyr adael y neuadd erbyn 10  o’r gloch fore dydd Sul, ond heb sicrwydd y bydd y neuadd ar agor ym mis Medi, mae nifer o fyfyrwyr wedi gwrthod gadael.

Dywedodd un o’r protestwyr wrth golwg360 y bore ma nad oedd awdurdodau’r brifysgol wedi ceisio symud y myfyrwyr hyd yn hyn.

Roedd myfyrwyr o Fangor wedi ymuno a nhw neithiwr ar ôl i’r protestwyr gyhoeddi “fod drysau Pantycelyn ar agor i holl bobl Cymru ymuno a ni” meddai swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith ac un o’r protestwyr, Bethan Williams, y bore ma.

Ychwanegodd y bydd cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw am gamau nesaf yr ymgyrch.

Yn y cyfamser, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn iddo ymyrryd er mwyn sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn aros ar agor.

Yn y llythyr at Carwyn Jones, sy’n gyn-breswylydd Pantycelyn ei hun, meddai Jamie Bevan, y byddai’n “gwbl groes i bolisi eich Llywodraeth pe bai’r neuadd yn cau.”

Cefndir

Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol iddi, ac fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Cyngor y brifysgol mewn deg diwrnod.

Mynnodd y brifysgol y byddai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hadleoli i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyhuddo o dorri addewid a wnaeth y llynedd i gadw’r neuadd breswyl ar agor, yn ôl yr ymgyrchwyr iaith.

‘Ymroddedig’

Nid oedd gan Brifysgol Aberystwyth sylw pellach i’w wneud y bore ma, ond roedd llefarydd ar ran y Brifysgol wedi dweud ddoe fod “Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd fod y brifysgol  “yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau Cymdeithasau Cymraeg a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu.”