Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i chwech o geir gael eu rhoi ar dân yn ardal Hightown yn Wrecsam neithiwr

Roedd  yr heddlu wedi derbyn adroddiadau fod cerbyd ar dân yng Nghlôs Waterloo toc wedi 10 o’r gloch neithiwr.

Yn ddiweddarach, daeth adroddiadau pellach o bum cerbyd arall oedd wedi cael eu rhoi ar dân.

‘Difrifol iawn’

Dywedodd y Prif Arolygydd Jane Banham o Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn trin y digwyddiad fel “un difrifol iawn” ond nad oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Meddai: “Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un a welodd ymddygiad amheus o gwmpas ardal Clôs Waterloo  i gysylltu â ni ar unwaith.”

Ychwanegodd fod heddlu ychwanegol wedi cael eu rhoi ar y strydoedd er mwyn “tawelu meddwl trigolion lleol”.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod S086449.