Dr Meredydd Evans
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi y bydd sefydlu gwobr flynyddol er cof am un o arweinwyr yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg.

Bydd Gwobr Merêd, er cof am y Dr Meredydd Evans, yn cydnabod cyfraniad myfyriwr sydd yn aelod o’r Coleg i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol ac yn ehangach.

Yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, nid cyflawniad academaidd yw prif ffocws y wobr, ond yn hytrach yr agweddau eraill, allgyrsiol, sydd yn allweddol i fywyd myfyrwyr mewn prifysgolion.

Roedd y Dr Meredydd Evans yn gefnogwr brwd i’r Coleg ac yn Llywydd Cyfeillion y Coleg. Yn 2012 fe’i urddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd yng Nghynulliad Blynyddol cyntaf y Coleg yn Abertawe.

Mae pob myfyriwr cyfredol sydd yn aelod o’r Coleg yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr. Mae’n cynnwys myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig, llawn-amser neu ran-amser, a myfyrwyr sydd ar gyfnodau sabothol fel swyddogion undeb.

‘Braint’

Meddai Dr Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  “Merêd oedd un o brif gefnogwyr y Coleg Cymraeg a braint oedd cael ei adnabod a derbyn ei anogaeth gyson i’n gwaith ni.

“Mae’n briodol felly ein bod yn sefydlu’r wobr hon er cof amdano ac mae’r Coleg yn ddyledus i deulu Merêd am eu cefnogaeth i’r wobr hon, a hefyd yn ddiolchgar am y rhodd hael gan un o’i gydnabod sydd wedi galluogi’r Coleg i’w sefydlu.”

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae enwebu myfyriwr ar wefan y Coleg a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 19 Mehefin 2015.

Y bwriad yw y bydd y wobr gyntaf yn cael ei chyflwyno i’r enillydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Meifod eleni.