Y Kingsway a'r llwybr bysus ar y chwith
Fe fydd arbenigwr annibynnol yn archwilio system ffordd yn Abertawe i weld a oedd hi’n rhannol gyfrifol am farwolaeth cerddwr ifanc.

Ac fe glywodd yr ail wrandawiad cychwynnol i farwolaeth Daniel Foss, 37 oed, fod cwmni bysus First Company wedi codi amheuon am drefn y Kingsway fwy na dwy flynedd cyn y ddamwain yn 2013.

Eleni, fe gafodd plismones ei lladd wrth iddi hithau geisio croesi’r un darn o ffordd yng nghwmni ei merch fach.

Roedd y ddau gerddwr wedi cael eu taro gan fysus.

Adroddiad annibynnol ‘o help’

Fe ddywedodd y Crwner, Colin Phillips, y byddai adroddiad annibynnol o help pan fydd y cwest llawn yn dechrau, fwy na thebyg ym mis Medi.

Does gan Gyngor Dinas Abertawe ddim dadansoddiadau ar wahân ar gyfer y Kingsway ac fe glywodd y gwrandawiad mae archwiliadau mewnol oedd wedi bod.

Eisoes roedd y Crwner wedi awgrymu bod trefn y Kingsway yn groes i reddf pobol gyda cherddwyr yn edrych i’r cyfeiriad anghywir wrth groesi’r llwybr bysiau.

Ym mis Mawrth eleni, fe gafodd y Sarjant Louise Lucas o Gaerdydd ei lladd.