Charlotte Church yn perfformio
Fe fydd y gantores o Gaerdydd Charlotte Chruch ymhlith y miloedd a fydd yn cymryd rhan mewn gorymdaith yn erbyn polisïau toriadau’r Llywodraeth yn Llundain ymhen pythefnos.

Mae trefnwyr Cynulliad y Werin sy’n fudiad gwrth-gyni wedi dweud fod dros 70,000 wedi datgan eu cefnogaeth eisoes i’r digwyddiad yn Llundain ar Fehefin 20.

Fe fydd undebau llafur, gwleidyddion, pobol adnabyddus a grwpiau ymgyrchu yn dod ynghyd yn yr orymdaith sy’n dechrau yn ardal ariannol Dinas Llundain ac yn gorffen wrth y Senedd.

“Dyw aros gartre’ a phroffwydo gwae ddim yn gwneud dim lles i neb,” meddai Charlotte Church mewn cynhadledd i’r wasg,” meddai.

Fe gyhuddodd y Llywodraeth o “ddweud celwydd am yr economi a chamarwain y cyhoedd”.

‘Y fwya’ ers blynyddoedd’

Mae Steve Turner, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Unite, yn proffwydo’r brotest fwya’ ers blynyddoedd.

“Fe fyddwn yn gweld clymblaid eang yn gwrthwynebu’r ymosodiadau milain gan lywodraeth dialgar,” meddai.

Galwodd am  ‘anufudd-dod sifil” yn erbyn polisïau cwtogi, gan ychwanegu ei fod yn gobeithio gweld yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn y brotest.