Angladd Craig Roberts (PA)
Roedd milwr wedi treulio dwy awr yn ceisio achub bywyd un o’i gyd-filwyr ar ôl iddo gael ei daro’n wael yn ystod ymarferiad ar fynyddoedd Bannau Brycheiniog, meddai wrth y cwest i farwolaeth tri milwr

Dywedodd y dyn – sy’n cael ei gyfeirio ato fel 1D am resymau diogelwch – ei fod wedi dod o hyd i Craig Roberts o Fae Penrhyn yn crynu ar y ddaear yn ystod yr ymarferiad ar ddiwrnod crasboeth yn haf 2013..

Roedd y Cymro wedi stopio anadlu’n ddiweddarach ac fe ddywedodd milwr 1D ei fod wedi treulio dwy awr yn ceisio ei adfywio.

Roedden nhw’n cymryd rhan mewn profion i ddewis milwyr ar gyfer yr SAS ger mynydd Pen y Fan.

Cefndir

Mae’r cwest yn edrych ar amgylchiadau marwolaeth James Dunsby, 31, Edward Maher, 31, a Craig Roberts, 24, yn dilyn y sesiwn hyfforddi.

Roedd y sesiwn yn cynnwys taith gerdded 16 milltir mewn tymheredd o bron i 30 gradd selsiws.

Clywodd gwrandawiad cychwynnol i farwolaeth y tri bod Craig Roberts ac Edward Maher wedi marw ar ôl gorboethi, tra bod James Dunsby wedi marw oherwydd bod ei organau wedi methu.

Mae’r cwest yn parhau.