Roger Lewis (PA)
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi atgoffa clybiau a chwaraewyr o bwysigrwydd peidio â chymryd cyffuriau ar ôl i aelod o dîm prifysgol yng Nghymru gael ei wahardd am ddwy flynedd.
Mae’n golygu bod wyth o chwaraewyr yr Undeb bellach wedi eu gwahardd am droseddau o’r fath, gan gynnwys un gwaharddiad am wyth mlynedd.
Yn awr mae Prif Weithredwr yr Undeb wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am chwaraewyr sy’n cymryd cyffuriau roi gwybod.
Mae angen hynny er mwyn gwarchod y gêm, yn ôl Roger Lewis.
Y drosedd
Fe gafodd Oliver Bilton, chwaraewr gyda Phrifysgol Met Caerdydd, ei brofi ar ôl gêm yn erbyn Arberth ym mis Rhagfyr y llynedd.
Fe ddangosodd y profion fod y dyn ifanc o Wlad yr Haf wedi cymryd steroidau anabolig.
Er i Oliver Bilton ddadlau mai wedi cymryd deunyddiau gan gyd-letywyr yr oedd ac nad oedd dim i ddangos bod sylweddau anghyfreithlon ynddyn nhw, fe benderfynodd y corff atal cyffuriau mewn chwaraeon, UKAD, nad oedd tystiolaeth annibynnol i gadarnhau hynny.
Fe fydd y gwaharddiad yn sefyll tan fis Rhagfyr 2016.