Chris Coleman
Mae Cymru wedi llithro un safle i 22ain yn rhestr detholiadau’r byd diweddaraf FIFA.

Llwyddodd tîm Chris Coleman i godi i’r 21ain safle ym mis Mai, safle uchaf Cymru erioed ar y rhestr, ar ôl rhediad o gemau lle mai dim ond unwaith naethon  nhw golli mewn blwyddyn a hanner.

Fe gynyddodd Cymru nifer eu pwyntiau o 916 i 929 yn y rhestr ddiweddaraf, ond maen nhw’n llithro un safle gan fod Awstria wedi neidio’n sylweddol.

Ar y llaw arall mae Gwlad Belg, gwrthwynebwyr Cymru yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 yr wythnos nesaf, wedi codi un safle i ail yn y byd.

O ran gwrthwynebwyr eraill Cymru yn eu grŵp rhagbrofol, mae Bosnia-Herzegovina yn 32ain (dim newid), Israel yn 40fed ( fyny 6), Cyprus yn 87fed (fyny 9) ac Andorra yn 204ydd (dim newid).

Llithrodd Lloegr un safle i 15fed, cododd yr Alban ddau safle i 28ain,cwympodd Gogledd Iwerddon ddau safle i 44fed, ac mae Gweriniaeth Iwerddon ddau safle yn uwch bellach yn 60fed.