Cadarnhaodd Awdurdod yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Ynys Môn i gynnal y Brifwyl ar yr ynys yn 2017.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Cyngor Sir a chyda pherchnogion tir ar yr ynys, ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn fuan.”

Mae’n hysbys fod yr Eisteddfod yn chwilio am dir yn ardal Bodedern er mwyn cynnal Prifwyl 2017.

Y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ynys oedd yn 1999, ar safle yn ardal Llanbedrgoch, a chyn hynny yn Llangefni yn 1983.

Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater yn cael ei gynnal yn Ysgol Llangefni nos Iau, Mehefin 25.