Prifysgol De Cymru
Fe fydd gweithwyr addysg ym Mhrifysgol De Cymru yn streicio yn dilyn anghydfod hir dros ddod a chwrs i ben a cholli swyddi.

Roedd 77% o’r 90 aelod o staff sy’n aelodau o’r Undeb Prifysgol a Choleg (UCU) wedi pleidleisio o blaid cynnal streic. Bydd swyddogion yr undeb yn cwrdd yfory i drafod pennu dyddiad ar gyfer y streic.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe benderfynodd y brifysgol ddod a chwrs celf sylfaen i ben, oedd yn golygu bod pedwar aelod o staff yn colli eu gwaith.

Mae aelodau UCU yn galw ar y brifysgol i gynnig cyfleoedd adleoli neu gefnogaeth amgen i’r gweithwyr a gollodd eu swyddi.

“Fe fydd dod a’r cwrs i ben yn gadael trigolion Casnewydd heb gyfle dysgu hanfodol – mwy o newyddion drwg i ardal sydd yn dioddef o doriadau addysg yn barod,” meddai Margaret Phelan o UCU.

Mae deiseb i achub y cwrs hefyd wedi casglu 930 o enwau.