David Cameron
Mae David Cameron wedi diystyru tynnu nôl o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol er gwaethaf gwrthwynebiad Michael Gove a Theresa May, yn ôl adroddiadau.
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder a’r Ysgrifennydd Cartref wedi dadlau mai tynnu allan o’r confensiwn yw’r “unig ateb” i sicrhau goruchafiaeth llysoedd Prydain dros y Llys Iawnderau Dynol yn Strasbwrg pan mae hi’n dod at faterion Hawliau Dynol, yn ôl y Daily Telegraph.
Fodd bynnag, mae’n debyg fod cynnig y ddau wedi cael ei wrthod gan y Prif Weinidog sydd wedi dod i’r casgliad y dylai Prydain aros yn rhan o’r confensiwn tra’n cael gwared â’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Daw’r datgeliad ychydig ddyddiau ar ôl i Araith y Frenhines gyhoeddi fod bwriad y Torïaid i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gyda Bil Hawliau Prydeinig wedi cael ei ohirio am o leiaf blwyddyn.
Mae’r oedi yn dod ymysg pryderon y byddai’r Llywodraeth yn wynebu brwydr i basio’r ddeddfwriaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, lle mae’n wynebu gwrthwynebiad sylweddol gan ASau Ceidwadol y meinciau cefn, ac yn Nhŷ’r Arglwyddi lle nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif o gwbl.