Mae gweithwyr dur Tata Steel wedi pleidleisio dros gynnal streic – fydd yn effeithio miloedd o weithwyr dur yng Nghymru.
Roedd pedwar undeb wedi bod yn ymgynghori gyda’u haelodau tros fwriad cwmni Tata i roi diwedd ar gynllun pensiwn Dur Prydain.
Mae degau o filoedd yn rhagor o gyn-weithwyr yn rhan o’r cynllun ac mae canlyniadau dwy bleidlais – gan undebau’r GMB a Community– wedi cael eu cyhoeddi gan ddangos cefnogaeth gref dros ymgyrchu diwydiannol.
Pleidleisiodd 88% o aelodau undeb Community dros streicio ac fe wnaeth 78% o’r aelodau gymryd rhan yn y bleidlais.
Mae aelodau’r pedwerydd undeb, Unite, yn dal i bleidleisio.
Streic fawr gynta’ ers 30 mlynedd
Yn ôl yr undebau, y cwmni rhyngwladol o India sydd ar fai am wthio’r diwydiant yn agos at eu streic fawr gynta’ ers mwy na 30 mlynedd.
Yn ôl swyddog Prydeinig y GMB, David Hulse, roedden nhw wedi bod yn trafod yn ddidwyll gyda’r cwmni ers mis Tachwedd y llynedd ond doedd y cwmni ddim yn gwrando.
Mae’r undebau’n dweud eu bod wedi ceisio dod i gyfaddawd gan gydnabod bod diffygion yn y cynllun sydd â 143,000 o aelodau.
Fe gyhoeddodd Tata ym mis Mawrth eu bod yn dod â’r cynllun i ben, gan ddweud bod y diffyg ynddo’n eu gorfodi i wneud hynny.
Fe fu cannoedd o bobol mewn cyfarfodydd ym Mhort Talbot lle mae tua hanner y 7,000 o weithwyr dur Tata yng Nghymru.
Fe fyddai’r drefn newydd yn golygu bod rhaid i weithwyr aros tan 65 oed, yn hytrach na 60, cyn gallu hawlio pensiwn.
Bydd aelodau o bwyllgor gweithredol undeb Community yn cyfarfod ddydd Llun i drafod y cam nesaf.