Mae llefarydd Llafur ar Ddiwylliant, yr AS Chris Bryant wedi dweud wrth y BBC bod perygl y gall cyllideb S4C “grebachu” o dan y Llywodraeth Geidwadol.
Dywedodd AS Llafur y Rhondda ei fod yn pryderu y bydd S4C yn dioddef o ganlyniad i newidiadau i’r BBC ac nad yw’n ymddiried yn y llywodraeth newydd i ariannu’r sianel Gymraeg.
Mae S4C yn derbyn tua £75 miliwn, sef y rhan fwyaf o’i gyllideb, o ffi drwydded y BBC. Mae’r sianel hefyd yn derbyn £7m gan Lywodraeth San Steffan.
“Rwy’n credu eu bod nhw eisiau crebachu’r BBC ac os ydyn nhw’n crebachu’r BBC ac mae S4C yn cael ei ariannu’n (rhannol) gan y BBC, yna mae ’na berygl go iawn y bydd S4C yn crebachu hefyd,” meddai Chris Bryant wrth y BBC.
Mae awgrym bod yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon newydd John Whittingdale, yn awyddus i newid y drefn.
Yn y gorffennol mae John Whittingdale ac aelodau eraill o’i blaid, megis Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dweud bod angen cael gwared â’r ffi drwydded.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd wedi mynegi pryder am effaith newid ffi drwydded y BBC gan awgrymu y gallai’r cynlluniau hynny beryglu bodolaeth yr unig sianel deledu Gymreig.
“Y cwestiwn yw, a yw’r Ceidwadwyr yn bwriadu dinistrio ein sianel deledu Gymreig? Os nad ydyn nhw, mae’n rhaid egluro ar unwaith sut y bydd S4C yn cael ei hariannu,” meddai’r Arglwydd Roger Roberts.
“Rydw i’n bryderus tu hwnt am beth fyddai’r cynlluniau yma’n ei olygu ar gyfer dyfodol ein gwasanaeth Cymraeg.”
Fe fydd trafodaethau ynglŷn ag ariannu’r BBC yn dechrau yn yr haf.
‘Diffyg ymgynghori’
Wrth ymateb i’r pryderon dywedodd David Wyn Williams, Is-Gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd am y materion hyn. Gwnaed toriadau o 93% i grant Llywodraeth Prydain i’r sianel yn barod, a hynny’n benderfyniad tu ôl i ddrysau caeedig heb ymgynghori ag unrhyw un yng Nghymru.
“Roedd yn benderfyniad annemocrataidd ac yn groes i farn gwleidyddion o Gymru. Rydyn ni’n mawr obeithio bod Llywodraeth Prydain a’r BBC wedi dysgu’r gwersi o’r diffyg ymgynghori a thryloywder yn ôl yn 2010. Mae angen sicrhau bod deialog rhwng Llywodraeth Prydain, cymdeithas sifil a gwleidyddion o Gymru am y materion hyn.”