Mae cleifion sydd â dementia wedi cael eu symud o uned mewn cartref gofal yn Ynys Môn ar ôl i’r Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddweud bod “pryderon am ddarpariaeth gofal nyrsio” yno.
Maen nhw bellach yn chwilio am leoliadau eraill i’r cleifion sydd wedi bod yn derbyn gofal yn uned Hafan yng nghartref Sant Tysilio yn Llanfairpwll.
Mae’r cartref yn rhedeg dwy uned – Hafan, sydd yn gallu gofalu am hyd at 33 o bobl sydd â dementia ac angen gofal nyrsio – ac uned Kyffin Williams, sydd yn darparu gofal i bobl sydd ag anghenion gofal mwy cyffredinol.
Mewn datganiad ar y cyd, mae Cyngor Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud y bydd cleifion sy’n diodde’ o salwch meddwl yn cael eu symud o uned Hafan oherwydd y pryderon.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw’n “cefnogi’r lleoliadau yma yn y dyfodol.”
Daeth y penderfyniad yn dilyn archwiliad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gynharach eleni.
Roedd hynny’n dod yn sgil gorchymyn methu cydymffurfio a gofnodwyd gan AGGCC ym mis Hydref a Thachwedd y llynedd oherwydd lefelau staffio.
‘Pryderon’
Meddai’r datganiad gan Gyngor Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “O ganlyniad i bryderon am ddarpariaeth gofal nyrsio yn Uned Hafan, lle mae pobl a dementia yn byw yng Nghartref Gofal Sant Tysilio, gall Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gadarnhau eu bod wedi penderfynu peidio â chefnogi’r lleoliadau yma yn y dyfodol.
“Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr felly yn cydweithio gyda thrigolion a’u teuluoedd er mwyn cytuno ar drefniadau gofal parhaol addas ac yn ystyried lleoliadau eraill ar gyfer y preswylwyr yma.”