Mae priffordd yr A485 ger Peniel yn Sir Gaerfyrddin wedi cau, yn dilyn damwain angheuol dros nos.
Roedd pedwar cerbyd yn rhan o’r digwyddiad, ac mae’r ffordd yn parhau ar gau rhwng Pontarsais a chylchfan Glangwili yn nhre’ Caerfyrddin.
Fe gafodd yr heddlu, ambiwlans a’r gwasanaeth tân ac achub eu galw, ond roedd dau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle o ganlyniad i’w hanafiadau. Roedden nhw ill dau’n teithio yn yr un car.
Mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau am weddill y bore, tra bod ymchwiliad i amgylchiadau’r ddamwain yn mynd rhagddyn.