Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio am beryglon sugndraeth ar ôl i ferch fach fynd i drafferthion ar draeth yn Sir Gâr.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i draeth Llansteffan oddeutu 6 o’r gloch neithiwr.

Cafodd y ferch ei hachub gan ei thad cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd y traeth.

Ar eu tudalen Twitter, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: “Gyda milltiroedd o draethau ac arfordir i’w mwynhau’r penwythnos Gŵyl Banc hwn, byddwch yn wyliadwrus o faw meddal/sugndraeth allan yna a byddwch yn ddiogel!”