Côr Glanaethwy ar Britain's Got Talent yn gynharach yn y gyfres
Fe fydd Côr Glanaethwy yn clywed os ydyn nhw wedi cael eu dewis i symud ymlaen i rowndiau cynderfynol Britain’s Got Talent heno.
Yn dilyn eu clyweliad cyntaf y mis diwethaf, fe wnaeth y côr o 162 o aelodau ennyn canmoliaeth wresog gan Simon Cowell a thri beirniad arall y sioe dalent.
Mae tri chôr Ysgol Glanaethwy – y Côr Iau, Côr Hyn a Chôr Aethwy – wedi uno i greu côr enfawr yn arbennig ar gyfer y rhaglen, gyda’r aelodau’n hanu o Wynedd, Môn a Chonwy.
“Rydym yn cael gwybod ddydd Sadwrn os ydan ni drwodd i’r rowndiau cynderfynol, sy’n cael eu cynnal yr wythnos nesaf,” meddai arweinydd Cefin Roberts.
Ers i Cefin a Rhian Roberts sefydlu ysgol Glanaethwy yn 1990, mae’r côr wedi cael llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys rhaglen Last Choir Standing ar y BBC.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu am 8:00 heno.