Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi y bydd Black Grape yn perfformio dros benwythnos yr ŵyl i ddathlu ugain mlynedd ers rhyddhau albwm gyntaf y band.

Bydd band Shaun Ryder a Kermit Leveridge yn chwarae ym Mhortmeirion ar benwythnos cyntaf mis Medi dau ddegawd ers i albwm y band, ‘It’s Great When You’re Straight… Yeah’ fynd i rif un yn y siartiau.

Fe fydd Black Grape yn ymuno ag artistiaid gan gynnwys Metronomy, Belle & Sebastian a’r DJ Mark Ronson yn yr ŵyl, ac mae lein-yp yr artistiaid Cymraeg fydd yno yn cynnwys Gruff Rhys, 9 Bach ac Yws Gwynedd.

Gŵyl “unigryw”

Llynedd roedd dros 14,000 o bobl yn yr ŵyl ger Porthmadog bob nos, ac mae Kermit Leveridge yn gobeithio am ymateb cystal eleni.

“Mae Gŵyl Rhif 6 yn unigryw. Mae’n ŵyl sydd â rhywbeth i bawb, boed chi yno am y parti neu’r diwylliant,” meddai’r aelod o Black Grape.

“Mae wastad artistiaid da yno ac mae’r olygfa yno’n wych. Dyma’r drydedd flwyddyn y bydda i wedi bod i Rif 6 a dw i’n edrych ymlaen at greu stŵr efo Black Grape.”