Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Bryngwyn yn Llanelli y prynhawn yma ar ôl i drosglwyddydd trydan ffrwydro ger yr adeilad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ysgol yn ystod amser cinio. Mae’n debyg nad oes gan yr ysgol a nifer o dai cyfagos gyflenwad trydan ar hyn o bryd.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau nad oes angen i rieni gasglu eu plant o’r ysgol.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys ar Twitter: “Nid oes unrhyw gyflenwad trydan yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae pob plentyn yn ddiogel. Mae Western Power yn trwsio’r nam. NID oes angen i rieni fynychu’r ysgol.”
Dywedodd Western Power eu bod nhw wrthi’n gweithio ar y broblem ac yn gobeithio y bydd y trydan nol erbyn tua 4 y prynhawn.