Trenau Arriva Cymru
Mae cwmnïau trenau wedi dechrau canslo gwasanaethau dros Ŵyl y Banc oherwydd y posibilrwydd o streic gan filoedd o weithwyr Network Rail (NR) mewn anghydfod dros gyflogau.

Er bod trafodaethau wedi eu gohirio neithiwr ac yn parhau heddiw, mae Trenau Arriva Cymru yn un o’r cwmnïau sydd wedi dechrau rhybuddio teithwyr y gallai’r streic effeithio eu gwasanaethau.

Os fydd y gweithredu diwydiannol yn mynd yn ei flaen, bydd gweithwyr NR yn streicio am 24 awr o 5:00 brynhawn dydd Llun, 25 Mai.

Mae Trenau Arriva Cymru’n dweud y bydd streic yn golygu canslo llawer o wasanaethau yn  gyfan gwbl ddydd Llun. Bydd eraill yn rhedeg yn achlysurol prynhawn dydd Llun ac ni fydd unrhyw wasanaethau ar ôl 5:00 y prynhawn.

Dydd Mawrth, ni fydd unrhyw wasanaethau o gwbl ond bydd y trenau i gyd yn rhedeg fel arfer erbyn dydd Mercher.

Mae Trenau CrossCountry, Chiltern Railways, First Great Western a ScotRail ymhlith y cwmnïau eraill sy’n rhoi syniad i deithwyr am yr anhrefn posib y gallan nhw ei ddisgwyl.

Dywedodd First Great Western y bydd trenau yn rhedeg pob awr rhwng Caerdydd a Llundain yn ystod y dydd, tan 6:30 y prynhawn, ar y ddau ddiwrnod.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn “hollol angenrheidiol.”

Dywedodd prif weithredwr National Rail, Mark Carne, eu bod yn parhau i drafod gyda’r undebau ac yn credu y gallan nhw gyrraedd cytundeb yr wythnos hon.

Ond rhybuddiodd na allan nhw ddibynnu ar yr undebau i ganslo’r streic, ac felly’n paratoi cynlluniau wrth gefn fel bod teithwyr yn gallu gwneud penderfyniadau am eu teithiau.

Mae amlinelliad o sut fyddai’r streic yn effeithio gwasanaethau Trenau Arriva Cymru i’w weld yma: